Mae’r Aelod Seneddol, Caroline Lucas, wedi anfon cwyno’n swyddogol am neges gan Arron Banks ynghylch ymgyrchydd newid hinsawdd 16 oed.

Ef yw sefydlydd Leave.EU ac mi daniodd y ffrae pan ymatebodd i drydariad gan yr Aelod Seneddol am daith Greta Thunberg tros Fôr yr Iwerydd.

“Mae cychod hwylio yn medru profi damweiniau annisgwyl ym mis Awst…,” meddai cyn dweud yn ddiweddarach mai “jôc” oedd y sylw.

Denodd y sylw ymatebion ar Twitter gyda rhai cyfrifon yn galw ei sylw yn “ddirmygadwy” ac yn enghraifft o “gasineb”. A bellach mae cwyn wedi’i gyflwyno i Twitter.

“Mae neges Arron Banks am Greta Thunberg yn fy ngwneud i’n sâl,” meddai Caroline Lucas. “Dw i wedi cyflwyno cwyn ffurfiol i Twitter.”

Greta ar daith

Bydd Greta Thunberg yn treulio pythefnos yn teithio ar draws Môr yr Iwerydd mewn cwch hwylio, ac wedi iddi gyrraedd y pen arall mi fydd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau gwyrdd.

Mae streiciau ysgol y ferch o Sweden wedi tanio llu o brotestiadau newid hinsawdd ledled y byd.