Mae awyrennau wedi dechrau hedfan o faes awyr Hong Kong unwaith eto ar ôl deuddydd o brotestiadau.

Bu’n rhaid i’r maes awyr gau yn hwyr ddoe (dydd Mawrth, Awst 13) wrth i brotestwyr ymgasglu a blocio mynediad i wasanaethau mewnfudo teithwyr oedd yn gadael y wlad.

Bu’n rhaid i’r heddlu eu tawelu gan ddefnyddio pastynau a chwistrellu pupur, ar ôl iddyn nhw guro dau ddyn roedden nhw’n eu hamau o fod yn asiantiaid cudd o Tsieina.

Fe wnaeth yr heddlu ymyrryd ar ôl i staff y maes awyr fethu â chadw trefn, a chafodd y ddau ddyn eu cludo i ffwrdd o’r safle gan barafeddygon.

Yn ôl yr heddlu, fe wnaethon nhw arestio pump o bobol am ymgynnull yn anghyfreithlon, ymosod ar yr heddlu a bod ag arfau yn eu meddiant.

Mae’r protestwyr yn mynnu bod Carrie Lam, arweinydd y wlad, yn camu o’r neilltu ac yn diddymu deddfwriaeth a allai weld pobol yn cael eu hanfon i Tsieina, lle gallen nhw gael eu harteithio, yn ôl rhai.

Mae Carrie Lam yn gwrthod trafod y ddeddfwriaeth, gan feirniadu’r protestwyr am eu gweithredoedd.