Mae asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yn galw ar lywodraethau Ewropeaidd i agor y drysau i dros 500 o bobol sydd wedi cael eu hachub yn y Mor Canoldir.

Yn ôl yr asiantaeth mae’r ffoaduriaid yma yn parhau i fod yn sownd allan yn y môr wrth i wledydd Ewrop ddadlau dros bwy ddylai rhoi lloches iddyn nhw.

“Mae hon yn ras yn erbyn amser,” meddai llysgennad arbennig i Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, Vincent Cochetel. Dywed fod “stormydd yn dod a bod yr amodau ddim ond yn mynd i waethygu”.

Mae’r ffoaduriaid ar fwrdd dwy long a siartiwyd gan grwpiau cymorth dyngarol, ond mae llywodraeth yr Eidal, sy’n erbyn croesawu ffoaduriaid, yn atal mynediad iddynt i’w phorthladdoedd

Dywed Comisiwn y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid fod bron i 600 o bobol wedi marw neu wedi mynd ar goll yn y moroedd rhwng Libya a’r Eidal eleni.

Dywedodd y Comisiwn Ewropeaidd ei fod yn annog ei wledydd i weithredu ac yn cynnig cefnogaeth, ond nid oes ganddo bŵer i ymyrryd.

“Nid oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud,” meddai llefarydd.