Mae arlywydd yr Unol Daleithiau eisiau Brexit i fod yn llwyddiannus ac eisiau sicrhau cytundeb masnach a gwledydd Prydain yn syth.

Yn dilyn cyfarfod gyda Boris Johnson yn Llundain, dywedodd cynghorydd diogelwch cenedlaethol Donald Trump, John Bolton, y gal yr Unol Daleithiau ganolbwyntio ar sicrhau cytundebau masnachu dwyochrog.

Byddai’r rhain yn cynnwys mewn diwydiannau fel gweithgynhyrchu a chreu ceir ble fyddai’r ddwy wlad yn gallu dod i gytundeb, gan ddatrys y mannau mwy cymhleth yn hwyrach.

“Prif bwrpas yr ymweliad mewn gwirionedd yw cyfleu awydd yr Arlywydd Trump i weld allanfa lwyddiannus o’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer y Deyrnas Unedig ar Hydref 31,” meddai John Bolton.

“Ei bwrpas hefyd yw cynnig cymorth mewn unrhyw ffordd y gallwn ac i fynegi ei obaith y gallwn gael cytundeb masnach ddwyochrog cwbl gynhwysfawr gyda gwledydd Prydain cyn gynted â phosibl. ”

“I fod yn glir, yng ngweinyddiaeth Donald Trump, mae gwledydd Prydain yn gyson dop ein rhestr masnach.”

Pôl Brexit

Daw hyn wrth i bollwyr ddweud bod y mwyafrif o gyhoedd gwledydd Prydain yn meddwl dylai Boris Johnson ohirio’r Senedd i sicrhau Brexit.

Ond mae nifer o Aelodau Seneddol wedi mynegi dicter ynghylch y syniad o ohirio’r Senedd er mwyn osgoi atal senario dim bargen gan Dŷ’r Cyffredin.

Yn ôl yr arolwg barn o 2,011 o oedolion Prydain hefyd roedd 51% o ymatebwyr yn cytuno “y dylid atal Brexit os yw problemau dros ffin Gogledd Iwerddon yn bygwth hollti’r Undeb.”

Yn ôl y ffigurau, mae 88% o ymatebwyr yn teimlo bod y Senedd “allan o gysylltiad” â’r cyhoedd yng ngwledydd Prydain, a bod 89% yn teimlo bod Aelodau Seneddol “yn anwybyddu dymuniadau pleidleiswyr ac yn gwthio eu hagenda eu hunain” ar Brexit.