Roedd y carchar yn Efrog Newydd lle bu farw’r ariannwr Jeffrey Epstein dros y penwythnos yn “brin o staff” adeg ei farwolaeth, yn ôl ffynhonnell sydd yn gyfarwydd â’r uned.

Nid yw’r manylion ynglŷn â sut y bu farw Jeffrey Epstein, 66, wedi cael eu cadarnhau hyd yn hyn, ond mae swyddogion meddygol wedi cynnal archwiliad post-mortem.

Roedd yr ariannwr wedi’i gyhuddo o gam-drin merched o dan oed yn rhywiol.

Roedd ei farwolaeth sydyn ddydd Sadwrn (Awst 10) yn golygu na fyddai’n wynebu achos troseddol a fyddai wedi datgelu ei weithredoedd a’i gysylltiadau gydag enwogion ac arlywyddion, er bod erlynwyr wedi dweud y byddan nhw’n parhau i gynnal ymchwiliad.

Cafodd cais Jeffrey Epstein am fechnïaeth ei wrthod ac roedd o’n wynebu hyd at 45 blynedd yn y carchar am gyhuddiadau yn ymwneud a masnachu rhyw a chynllwynio. Roedd wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau ac yn aros i’r achos llys yn ei erbyn i ddechrau.

Mae’r modd y bu farw Jeffrey Epstein yn parhau i fod yn ddirgelwch, ond roedd swyddogion carchar yn yr uned lle’r oedd yn cael ei gadw yn gweithio shifftiau goramser oherwydd prinder staff, meddai’r ffynhonnell.

Roedd ’na bryderon y gallai Jeffrey Epstein ladd ei hun ac roedd wedi cael ei roi o dan ofal arbennig, yn ôl y ffynhonnell, ond roedd y gofal wedi dod i ben ddiwedd mis Gorffennaf.