Mae o leiaf 93 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn llifogydd mawr yn India.

Mae cannoedd o filoedd yn rhagor wedi gorfod gadael eu cartrefi yn dilyn y llifogydd a thirlithriadau dros ddyddiau o law trwm yn ne’r wlad.

Yn Kerala mae’r sefyllfa ar ei gwaethaf, lle bu farw 57 o bobol erbyn neithiwr (nos Sadwrn, Awst 10).

Yn ôl adroddiadau, mae 31 o bobol wedi’u lladd yn Karnataka, tra bod o leiaf bump o bobol wedi marw yn Tamil Nadu.

Flwyddyn yn ôl, cafodd 223 o bobol eu lladd mewn llifogydd yn Kerala, wrth i gannoedd o filoedd o bobol orfod gadael eu cartrefi.