Mae Cymdeithas y Cymod yn galw ar eisteddfodwyr i ddod â hen esgidiau i’w stondin ar Faes yr Eisteddfod, gyda’r nod o’u hanfon i blant yn rhyfel cartref Yemen.

Ar bumed diwrnod Eisteddfod Sir Conwy mae pentwr reit fawr o esgidiau i’w weld yno, ac mae’n ffordd o godi ymwybyddiaeth o erchylltra rhyfel Yemen meddai Awel Areni o Gymdeithas y Cymod, ar ben sut mae modd cysylltu’r rhyfel a Chymru.

“Rydyn ni wedi dechrau’r ymgyrch yma am ein bod wedi bod ym Maes Awyr y Fali yn Ynys Môn ,” meddai Awel Areni.

“Rydyn ni’n deall eu bod nhw’n hyfforddi peilotiaid o Sawdi Arabia yma yng Nghymru er mwyn bod yn rhan o’r ymgyrch yn erbyn gwlad dlawd iawn fel Yemen.”

Cafodd y syniad o hel esgidiau ei blannu gan Hisham al-Omeisy ar ôl ei ymweliad i Gymru ym mis Mawrth.

Roedd Hisham al-Omeisy un wnaeth ymgyrchu yn yr Arab Spring pan fuodd wrthryfelau lu yn erbyn Llywodraethau ar draws Gogledd Affrica a ‘r Dwyrain Canol yn 2010.

Fe fydd yr esgidiau yn cael cyrraedd Yemen drwy law y gymuned Yemeni yng Nghaerdydd.