Mae o leiaf 29 o bobl wedi marw mewn dau achos o saethu yn Dayton, Ohio ac El Paso yn Texas yn yr Unol Daleithiau dros y penwythnos.

Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi beirniadu’r ddau ddigwyddiad gan ddweud “nid oes lle i gasineb yn ein gwlad.”

Mewn cynhadledd newyddion, dywedodd Donald Trump ddydd Sul (Awst 4) ei fod “am fynd i’r afael” a’r broblem.

Dywedodd ei fod am gyfarfod gyda’r twrne cyffredinol, cyfarwyddwr yr FBI ac aelodau o’r Gyngres ac y bydd yn gwneud datganiad pellach ddydd Llun (Awst 5).

Ychwanegodd bod gan y dynion arfog “salwch iechyd meddwl difrifol.”

Ond mae nifer o Ddemocratiaid wedi rhoi’r bai ar Donald Trump gan ddweud ei fod annog casineb yn y wlad.

Ohio

Daeth cannoedd o bobl ynghyd mewn gwylnos nos Sul i gofio’r naw o bobl gafodd eu saethu’n farw a’r 27 gafodd eu hanafu ar ôl i ddyn arfog mewn mwgwd danio gwn tuag atyn nhw yn Dayton.

Mae’r dyn arfog wedi cael ei adnabod fel Connor Betts, 24, a chafodd ei saethu gan yr heddlu o fewn 30 eiliad iddo ddechrau tanio’r gwn.

Roedd ei chwaer, Megan, 22 oed, yn un o’r rhai gafodd eu lladd.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth oedd y cymhelliad y tu ôl i’r ymosodiad.

Texas

Cafodd 20 o bobl eu saethu’n farw mewn siop yn El Paso ddydd Sadwrn (Awst 3) ac yn ôl yr awdurdodau maen nhw’n trin y digwyddiad fel achos o frawychiaeth ddomestig.

Mae disgwyl i’r dyn sy’n cael ei amau o’u saethu wynebu cyhuddiad o droseddau casineb.

Roedd neges hiliol, oedd yn gwrthwynebu mewnfudwyr wedi cael ei roi ar-lein cyn y digwyddiad.

Roedd y dyn arfog wedi targedu siopwyr yn Walmart yn El Paso, dinas sy’n gartref i 680,000 o bobl, y rhan fwyaf sydd o dras Latino.

Mae’r dyn arfog wedi cael ei adnabod fel Patrick Crusius, 21 oed, o Allen, yn Dallas. Roedd wedi ildio i’r heddlu ar ôl i swyddogion ei amgylchynu wrth ymyl y safle.