Mae o leiaf saith o bobol wedi marw a 31 wedi cael eu hanafu ar ôl i dair fferi suddo rhwng dwy o ynysoedd y Ffilipinas.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a oes yna ragor o bobol yn dal ar goll.
Fe ddigwyddodd rhwng ynysoedd Guimaras ac Iloilo.
Mae lle i gredu bod nifer o blant ar y tair fferi.
Mae rhybudd erbyn hyn am law trwm a storm ger yr ynysoedd, sydd oddeutu 544 o filltiroedd oddi ar yr arfordir.