Mae un o’r ffigurau blaenllaw yng ngwrthbleidiau Rwsia wedi cael ei harestio ar ei ffordd i gymryd rhan mewn protest anghyfreithlon ym Mosgo.

Roedd y brotest yn erbyn gwahardd ymgeiswyr annibynnol a’r gwrthbleidiau rhag sefyll yn etholiadau cyngor lleol y ddinas.

Cafodd Lyubov Sobol, sydd wedi’i gwahardd rhag sefyll, ei harestio yng nghanol y ddinas a’i chludo i’r ddalfa.

Daw’r brotest ddiweddaraf wythnos yn unig ar ôl i oddeutu 1,400 o brotestwyr eraill gael eu harestio a’u curo gan yr heddlu.

Mae disgwyl i’r brotest heddiw (dydd Sadwrn, Awst 3) gael ei chynnal dros bellter o 2.5 milltir ar gyrion y brifddinas.