Mae Alexei Navalny, arweinydd prif wrthblaid Rwsia, yn yr ysbyty ar ôl dioddef effeithiau alergedd yn y carchar.

Cafodd ei ddedfrydu i 30 diwrnod dan glo ddydd Mercher (Gorffennaf 25) am ei ran mewn protest anghyfreithlon ym Mosgo.

Erbyn iddo gyrraedd yr ysbyty, roedd ei wyneb wedi chwyddo a’i groen yn goch.

Cafodd 1,400 o bobol eu harestio am eu rhan yn y brotest – y nifer fwyaf ers degawd.