Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gyrff dwy ddynes drawsryweddol oedd wedi cael eu harteithio a’u lladd ym Mhacistan.

Cafwyd hyd iddyn nhw mewn eiddo dan glo yn ardal Sahiwal yn nwyrain Punjab.

Dydy hi ddim yn glir beth oedd y cymhelliad am eu lladd nhw ar hyn o bryd, yn ôl yr heddlu.

Ond mae lladd pobol drawsryweddol gan aelodau eu teuluoedd yn beth cyffredin.