Credir bod hyd at 150 o ymfudwyr wedi boddi neu ar goll ar ôl i’r cychod roedden nhw’n teithio ynddyn nhw droi drosodd ym Môr y Canoldir ger Libya.

Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau yn Libya bod dau gwch oedd yn cludo tua 300 o ymfudwyr wedi troi drosodd tua 75 milltir i’r dwyrain o’r brifddinas Tripoli. Roedden nhw ar eu ffordd i Ewrop.

Cafodd tua 137 o bobol eu hachub a’u dychwelyd i Libya ac mae gwylwyr y glannau wedi dod o hyd i un corff yn unig hyd yn hyn.

Yn ôl Charlie Yaxley, llefarydd ar ran asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, roedd 147 o bobol wedi cael eu hachub.

“Ry’n ni’n amcangyfrif bod 150 o ffoaduriaid ar goll neu wedi marw yn y môr,” meddai.

Ers i Muammar Gaddafi gael ei ddisodli a’i ladd yn 2011mae Libya wedi dod yn brif gyrchfan ar gyfer ymfudwyr o Affrica sy’n chwilio am fywyd gwell yn Ewrop.