Mae llywodraeth Affganistan eisiau eglurhad gan arlywydd yr Unol Daleithiau sy’n dweud gallai opsiwn milwrol gael gwared ar Affganistan nos nad oes datrysiad heddychlon i ryfel 18 blynedd y wlad.

Roedd Donald Trump wedi gwneud y sylwadau ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 23) wrth gyfarfod a Prif Weinidog Pacistan, Imran Khan.

Mae Donald Trump eisiau cymorth Imran Khan i drafod cytundeb heddwch gyda’r Taliban, fyddai hefyd yn gweld milwyr yr Unol Daleithiau yn gadael Affganistan.

Dywedodd yr Arlywydd y byddai’n gallu ennill rhyfel Affganistan o fewn 10 diwrnod, ond byddai hyn hefyd yn “cael gwared ar Affganistan oddi ar wyneb y ddaear.”

Mae Arlywydd Affganistan, Ashraf Ghani, nawr yn gofyn am eglurhad gan ddatgan na fyddai “fydd yn gadael pŵer o dramor i benderfynu ffawd ei wlad.”