Mae’r heddlu wedi dod o hyd i ffrwydron ar drothwy protest fawr yn erbyn y llywodraeth yn Hong Kong.

Cawson nhw eu darganfod yn ystod cyrchoedd ar labordy, ynghyd â baneri yn gwrthwynebu deddfwriaeth estraddodi’r wlad.

Ond dydy’r heddlu ddim yn cysylltu’r ffrwydron yn uniongyrchol â’r brotest ar hyn o bryd.

Mae dyn 27 oed wedi cael ei arestio, ac mae’r heddlu’n dweud y gallen nhw arestio rhagor o bobol.

Mae bariau wedi cael eu codi o amgylch adeilad llywodraeth Hong Kong cyn y brotest.