Mae Prif Weinidog Kosovo wedi ymddiswyddo ar ôl cael ei wahodd i’r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol sy’n ymchwilio i droseddau rhyfel yn erbyn Serbiaid yn y 1990au.

Mae Ramush Haradinaj wedi cytuno i gael ei gwestiynu – ond nid oedd am wneid hynny tra yn swydd y Prif Weinidog.

Rhoddodd wybod i’w gabinet ei fod yn sefyll lawr ac mae yn annog y llywydd i gynnal etholiadau seneddol buan.