Mae Iran yn gwadu’r honiad bod yr Unol Daleithiau wedi dinistrio un o’i dronau yng Ngheufor Persia.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yn dweud bod yr USS Boxer wedi dinistrio’r drôn wedi iddo hedfan yn rhy agos i’r llong.

Un o dronau Iran oedd e, yn ôl yr Arlywydd, ac mae’n dweud bod y teclyn wedi ymddwyn yn “brofoclyd ac yn ymosodol”.

Mae Dirprwy Weinidog Tramor Iran, Abbas Araghchi, wedi ymateb trwy ddweud “dydyn ni ddim wedi colli drôn yng Nghulfor Hormuz nac yn unlle arall.”

Culfor Hormuz sy’n cysylltu Culfor Persia a Chulfor Oman, ac mae swm helaeth o olew’r byd yn cael ei gludo trwyddi.

Daw hyn oll wrth i’r berthynas rhwng Iran a’r Unol Daleithiau droi’n fwy tanllyd, ac wedi i Iran ddinistrio un o dronau’r Unol Daleithiau.