Mae 15 o ffoaduriaid wedi cael eu lladd mewn gwrthdrawiad ar y ffin rhwng Twrci ac Iran.
Cafodd mwy nag 20 o bobol eu hanafu ger tref Ozalp yn nhalaith Van yn nwyrain Twrci, ar ôl i’r fan roedden nhw’n teithio ynddi adael y ffordd.
Mae lle i gredu bod y ffoaduriaid yn teithio o Affganistan, Pacistan a Bangladesh.
Mae Twrci yn gyrchfan gyffredin i ffoaduriaid sy’n ceisio cyrraedd gwledydd yr Undeb Ewropeaidd ar dir neu fôr.
Fis diwethaf, fe wnaeth gyrrwr fan anwybyddu cyfarwyddyd i stopio cyn taro wal yng ngogledd-orllewin Twrci, gan ladd deg o ffoaduriaid.
Yn y cyfamser, mae 285 o ffoaduriaid o Affganistan a Bangladesh wedi cael eu hatal yn Van wrth i swyddogion diogelwch gynnal archwiliadau.
Yn eu plith roedd 48 o blant a 51 o fenywod.