Mae un person wedi marw a 35 wedi eu hanafu wedi i dân gael ei ddechrau yn fwriadol mewn stiwdio enwog yn Japan, yn ôl heddlu.

Mae Kyoto Animation yn enwog am gynhyrchu animeiddiadau a llyfrau comics, ac aeth eu stiwdio yn ninas Uji ar dân fore heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 18).

Bu farw un person o’i losgiadau, ac mae’n debyg bod deg arall mewn cyflwr difrifol ar ôl cael eu llosgi.

Yn ôl yr awdurdodau, cafodd y tân ei ddechrau gan ddyn â hylif anhysbys, ac mae’r unigolyn hwnnw hefyd wedi’i anafu ac wedi’i gludo i’r ysbyty.

Mae’r heddlu yn ymchwilio i’r dyn ar amheuaeth o ddechrau tân yn fwriadol.

Roedd 70 o bobol yn yr adeilad pan aeth ar dân, ond gwnaeth y rhan fwyaf ohonyn nhw lwyddo i ffoi.