Mae daeargryn dan y môr wedi ysgwyd Bali, Lombok and Dwyrain Java, gan achosi difrod i gartrefi, swyddfeydd a themlau, yn ôl yr awdurdodau yn Indonesia.

Er ei fod o gryfder 5.7 ar y raddfa, mae seismolegwyr yn dweud nad oedd yn ddigon grymus i fod wedi achosi tswnami.

Roedd y canolbwynt tua 82km (51 milltir) o dde-orllewin Denpasar yn Bali, a rhyw 91km (57 milltir) dan wyneb y môr.

Fe fu’n rhaid i brif ysbyty Denpasar hebrwng rhai cleifion, a nhwthau’n dal yn eu gwlau neu’n sownd i’w drips, allan i erddi’r ysbyty. Fe gafodd ysgolion a gwestai gerllaw eu gwagio hefyd.