Mae ofnau y gallai nifer o bobol fod wedi cael eu dal yng nghanol rwbel adeilad pedwar llawr sydd wedi cwympo yn ninas Mwmbai yn India.

Mae tri o bobol wedi cael eu tynnu allan gan y gwasanaeth achub cyn cael eu cludo i’r ysbyty.

Roedd yr adeilad 80 oed mewn stryd gul mewn ardal brysur ac roedd hi’n anodd i’r gwasanaethau brys ei gyrraedd gyda pheiriannau trwm. Mae lluniau teledu yn dangos pobol y ddinas yn ffurfio cadwyn gyda’u cyrff i gael gwared ar y rwbel gyda’u dwylo.

Ddydd Sul (Gorffennaf 14) fe ddymchwelodd adeilad arall mewn ardal fryniog yn ninas Solan, yng ngogledd India, gan ladd 14 o bobol.