Mae gweriniaeth y Congo wedi cadarnhau fod achos o Ebola yn ninas Goma – yr achos cyntaf i’w gofnodi yn y brifddinas o dros ddwy filiwn o bobol.

Mae’r weinyddiaeth iechyd yn dweud i ddyn gyrraedd y ddinas ddydd Sul (Gorffennaf 14) a’i gludo yn symud i’r ganolfan trin Ebola.

Mae’r awdurdodau hefyd yn dweud eu bod wedi llwyddo i gael gafael ar bob un o’r teithwyr oedd ar yr un bws â’r claf rhwng Butembo a Goma. Butembo yw un o’r trefi sydd wedi’u taro waethaf gan y clefyd.

Mae’r feirws wedi lladd mwy na 1,600 o bobol yn y Congo.