Mae’r Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt yn teithio i Frwsel heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 15) er mwyn ceisio tawelu’r tensiynau yn ymwneud a’r cytundeb niwclear gydag Iran.

Yno bydd Jeremy Hunt yn cyfarfod a’r gwledydd eraill sydd yn rhan o’r cytundeb niwclear fel Ffrainc a’r Almaen.

Mewn datganiad o flaen y cyfarfod, dywed gwledydd Prydain, Ffrainc a’r Almaen eu bod yn “pryderu’n fawr” am y digwyddiadau diweddar yn Iran gan alw ar yr Unol Daleithiau i gymryd cam yn ôl o’r gwrthdaro.

“Rydym yn credu bod yr amser wedi dod i ymddwyn yn gyfrifol ac i geisio llwybr i atal tensiynau rhag cynyddu ac ailddechrau deialog,” meddai’r datganiad.

“Mae’r risgiau yn golygu ei bod yn angenrheidiol i bawb sy’n rhan o’r cytundeb gymryd saib ac ystyried canlyniadau posibl eu gweithredoedd.”

Daw ymweliad Jeremy Hunt ar ôl iddo gynnig i sicrhau fod tancer olew Iran yn cael ei ryddhau ar ôl cael ei ddal yn Gibraltar gan Forlu Brenhinol Prydain.

Mae tensiynau wedi bod yn uchel iawn yn y Gwlff yn dilyn penderfyniad arlywydd Donald Trump i dynnu’r Unol Daleithiau allan o’r cytundeb niwclear.