Mae degau o bobol wedi marw yn dilyn llifogydd yn Nepal, India a Bangladesh, yn ôl adroddiadau.

Mae’r llifogydd diweddaraf yn Nepal wedi lladd o leiaf 50 o bobol, ac mae o leiaf 30 yn rhagor ar goll.

Mae lle i gredu bod 10,000 wedi gorfod symud o’u cartrefi.

Yn Bangladesh, mae o leiaf ddwsin o bobol wedi cael eu lladd gan fellt ers ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 13), ac mae glaw trwm yn dal yn effeithio’n sylweddol ar y wlad.

Mae cartrefi 40,000 wedi cael eu taro gan y llifogydd, yn ôl awdurdodau’r wlad.

Ac mae o leiaf 14 o bobol wedi cael eu lladd gan lifogydd yng ngogledd-ddwyrain India, a mwy na miliwn o bobol wedi cael eu heffeithio.