Mae o leiaf dri o bobol wedi cael eu twlcio gan deirw yn ras olaf gŵyl enwog San Fermin yn Pamplona yn Sbaen.

Cafodd un rhedwr ei dwlcio yn ei goes, a chafodd dau arall anafiadau i’w breichiau, yn ôl y Groes Goch.

Daeth y ras 850 metr rhwng chwe tharw i ben mewn dwy funud a 42 eiliad.

Bydd y teirw’n cael eu lladd mewn cylch yn ddiweddarach heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 14).

Mae’r ŵyl, a ddaeth yn enwog yn sgil y nofel The Sun Also Rises gan Ernest Hemingway, yn denu mwy na miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.