Mae dyn wnaeth ddwyn car gyda thri o blant ynddo wedi ei ddyrnu i farwolaeth yn America.
Roedd y car wedi ei barcio mewn bwyty Pizza yn Philadelphia, gyda’r injan yn troi, am 9.15 neithiwr pan aeth y lleidr fewn iddo a gyrru i ffwrdd.
Roedd mam y plant yn y bwyty yn siarad gyda thad dau o’r plant.
Pan aeth y car yn sownd mewn traffig, fe lusgodd y rhieni’r lleidr 54 oed o’r car.
Er i’r lleidr redeg i ffwrdd, fe gafodd ei ddal gan y tad, a bu ffeit gyda dynion eraill yn ymuno ynddi.
Fe gafodd y lleidr ei daro yn anymwybodol a’i gludo i’r ysbyty, lle bu farw.
Nid oes unrhyw un yn wynebu cyhuddiadau, ac mae’r plant sydd rhwng saith mis a phum mlwydd oed, yn iawn.