Mae gwleidyddion Ffrainc wedi rhoi sêl bendith i dreth ar gwmnïau mawr y we er gwaethaf bygythiadau gan yr Unol Daleithiau.

Mae disgwyl i gwmnïau gan gynnwys Google, Amazon a Facebook gael eu heffeithio, ac mae pencadlysoedd rhain oll yn yr Unol Daleithiau.

Hyd yma, mae America wedi bygwth ymateb trwy osod tariffau ar ddeunydd o Ffrainc, ac mae’r Democratiaid a’r Gweriniaethwyr wedi cyhoeddi datganiad yn beirniadu’r cam.

Y ddadl yw bod y dreth yn targedu cwmnïau Americanaidd “mewn ffordd annheg” a’i bod yn debygol o “niweidio gweithwyr Americanaidd”.

Mae Gweinidog Cyllid Ffrainc, Bruno Le Maire, wedi ymateb i’r posibiliad o dariffau ar nwyddau Ffrengig gan ddweud y dylai cynghreiriaid ddelio ag anghydfodau heb fygwth.