Mae chwech o bobol wedi marw yn dilyn tywydd garw yng ngwlad Groeg.

Yn ôl y gwasanaethau brys, mae tua 65 o bobol wedi eu hanafu hefyd, gyda chwech ohonyn nhw yn yr ysbyty, ar ôl i storm daro gogledd Halkidiki ddydd Mercher (Gorffennaf 10), gan adael dinistr ar ei hôl.

Cafodd dau berson eu lladd ar ôl i wyntoedd cryfion droi eu car drosodd, tra bo dau arall, sef mam a’i phlentyn, wedi marw ar ôl i do bwyty syrthio ar eu pennau.

Bu farw dau arall o ganlyniad i goedydd yn cwympo.

Mae’r awdurdodau wedi cyhoeddi stad argyfwng yn yr ardal, sydd ger dinas Thessaloniki – lleoliad poblogaidd gan ymwelwyr yn ystod tymor yr haf.