Yng Ngwlad Groeg, mae arweinydd y blaid geidwadol, Kyriakos Mitsotakis, wedi ennill yr etholiad gan ddisodli’r Prif Weinidog asgell chwith, Alexis Tsipras.

Roedd Alexis Tsipras wedi bod wrth y llyw ers pedair blynedd wrth i’r wlad ymdopi gydag argyfwng ariannol oedd wedi arwain at fesurau llymder.

Gyda 90% o’r pleidleisiau wedi’u cyfrif, roedd plaid Democratiaeth Newydd Kyriakos Mitsotakis wedi sicrhau 39.8% o’r bleidlais o’i gymharu â phlaid Syriza Alexis Tsipras oedd wedi cael 31.5%.

Mae’r canlyniadau’n adlewyrchu tueddiad diweddar yn Ewrop lle mae pleidleiswyr wedi troi cefn ar bleidiau traddodiadol gan droi at bleidiau mwy ewro-sgeptig a phoblyddol.

Yn ei araith wedi’r bleidlais dywedodd Kyriakos Mitsotakis, 51, bod “brwydr anodd ond hyfryd ar fin dechrau”.

Mae wedi rhoi addewid i dorri trethi, denu buddsoddiad a gwella’r farchnad waith.

Dywedodd Alexis Tsipras ei fod yn parchu dewis y bobl ac y byddai’r blaid yn parhau i fod yn wrthblaid “cyfrifol ond deinamig” yn y llywodraeth.

Roedd wedi galw etholiad dri mis yn gynt na’r disgwyl ar ôl i Syriza gael ei threchu yn etholiadau’r Undeb Ewropeaidd ac etholiadau lleol ym mis Mai a Mehefin.