Mae oddeutu 40 o ffoaduriaid wedi dod oddi ar gwch ar ynys Lampedusa ger yr Eidal am driniaeth feddygol, er gwaethaf gwaharddiad sydd mewn grym.

Dywed yr awdurdodau bod oddeutu 40 o bobol wedi cael gadael eu cwch.

Mae’r cwch yng ngofal yr heddlu erbyn hyn, a’r capten yn destun ymchwiliad am gynorthwyo mewnfudo anghyfreithlon.

Mae gwaharddiad ar gychod sy’n cludo ffoaduriaid i’r Eidal.