Mae naw niwrnod o ddigwyddiadau wedi dechrau yn Pamplona fel rhan o ŵyl rasus ac ymladd teirw flynyddol.

Mae disgwyl i hyd at filiwn o bobol heidio i’r ardal ar gyfer y digwyddiadau a gafodd eu hanfarwoli yn nofel Ernest Hemingway, The Sun Also Rises ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf.

Yn ystod y rasus, mae’r teirw’n rhedeg dros bellter o 850m i mewn i gylch ymladd.

Wrth i’r digwyddiad ddod yn fwy poblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, mae mwy o brotestiadau’n cael eu cynnal gan ymgyrchwyr tros hawliau anifeiliaid.

Neithiwr (nos Wener, Gorffennaf 5), fe fu’r ymgyrchwyr yn gorwedd ar lawr yn noethlymun wrth iddyn nhw ddynwared teirw marw yn gorwedd ar lawr ar ôl cael eu lladd mewn gornestau.

Mae ymladd teirw’n cael ei warchod o dan gyfraith Sbaen fel rhan hanfodol o ddiwylliant y wlad.