Mae Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau yn mynnu eu bod nhw am gynnwys cwestiwn am ddinasyddiaeth ar Gyfrifiad 2020.

Daw’r sylw oriau’n unig ar ôl i’r Arlywydd Donald Trump ddatgan ei fod yn ystyried “yn ddifrifol iawn” geisio am orchymyn er mwyn sicrhau bod y cwestiwn yn cael ei gynnwys.

Ond mae’r Goruchaf Lys wedi gwahardd y cwestiwn am y tro, ac mae’r gwaith o argraffu’r ffurflenni heb y cwestiwn eisoes ar y gweill.

Dydy’r cwestiwn am ddinasyddiaeth ddim wedi ymddangos ar ffurflenni’r Cyfrifiad ers 1950.

Ail-adeiladu ffiniau gwleidyddol

Mae Donald Trump yn awyddus i ddefnyddio’r Cyfrifiad er mwyn ail-adeiladu ffiniau gwleidyddol yr Unol Daleithiau.

Mae rhanbarthau’n seiliedig ar faint y boblogaeth ar hyn o bryd, ond mae rhai Gweriniaethwyr am eu newid ar sail nifer y boblogaeth sy’n gymwys i bleidleisio, a fyddai’n anfantais i’r Democratiaid gan y byddai’n neilltuo mewnfudwyr.

Dydy’r Goruchaf Lys ddim am wneud penderfyniad ar gyfreithlondeb cynllun o’r fath.

Mae Swyddfa’r Cyfrifiad yn dweud y byddai cwestiwn am ddinasyddiaeth yn troi mewnfudwyr i ffwrdd o’r Cyfrifiad ac o ganlyniad, byddai arian yn cael ei dynnu oddi ar ardaloedd lle mae trwch o’r mewnfudwyr yn byw.

Byddai hynny, meddai arbenigwyr, yn fanteisiol i’r Gweriniaethwyr.