Mae actores o Dde Corea yn wynebu trybini cyfreithiol wedi iddi ladd pysgod cregyn ar raglen deledu.
Mae disgwyl i gystadleuwyr The Law Of The Jungle oroesi’r gwyllt trwy ladd anifeiliaid a’u bwyta.
A dyna’n union oedd Lee Yeol-eum yn trio ei wneud pan laddodd dri physgodyn cragen enfawr ym Mharc Cenedlaethol Hat Chao Mai, yng Ngwlad Thai.
Mae’r parc cenedlaethol yn mynnu eu bod wedi rhybuddio cynhyrchwyr y rhaglen rhag amharu ar greaduriaid y môr, a bellach mae darlledwr y sioe wedi ymddiheuro.
Mae’r ddynes wedi cael ei chyhuddo o hela rhywogaeth sydd wedi’i hamddiffyn, ac mi allai dreulio pedair blynedd dan glo.