Mae o leiaf 10 o bobol wedi cael eu lladd wrth i brotestwyr a’r lluoedd diogelwch wrthdaro yn Swdan.
Yn dilyn y protestiadau ddoe – sy’n galw ar luoedd arfog y wlad i roi grym i’r bobol – mae tri chorff wedi’u darganfod drws nesaf i ysgol yn ninas Omdurman heddiw (Dydd Llun, Gorffennaf 1).
Roedd y tri wedi cael eu saethu’n fawr ac mae’r awdurdodau yn dweud bod o leiaf saith o bobol wedi cael eu lladd a 200 wedi’u hanafu ddoe (Dydd Sul, Mehefin 30).
Mae cyngor y fyddin yn beio arweinwyr y brotest am y marwolaethau am iddynt ddargyfeirio llwybrau eu gorymdeithiau.
Mae’r protestwyr yn galw ar y lluoedd arfog i drosglwyddo grym i’r bobol ar ôl iddyn nhw gipio grym gan yr Arlywydd hirdymor Omar al-Bashir ym mis Ebrill.