Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio’i fab trawsryweddol ym Mhacistan.

Roedd Aurangzeb Akbar wedi sicrhau wrth yr heddlu na fyddai’n niweidio’i fab wrth ddychwelyd adref.

Roedd Aftab Aurangzeb, 19, wedi bod yn aros gyda’i ffrindiau yn Peshawar.

Roedd ei ffrindiau’n gofidio y byddai’r tad yn ei niweidio, ac fe wnaethon nhw gysylltu â’r heddlu.

Cafwyd hyd i gorff Aurangzeb, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Maya, ar lannau afon yn nhref Nowshera. Roedd wedi cael ei saethu sawl gwaith.

Mae llofruddio pobol drawsryweddol gan aelodau eu teuluoedd eu hunain yn dod yn fwyfwy cyffredin ym Mhacistan.