Mae Twrci yn dweud y byddan nhw’n ymateb i unrhyw ymosodiadau gan Khalifa Hifter yn Libya ar eu llongau.
Dywed y llywodraeth y bydd yna “ganlyniadau difrifol” i unrhyw ymosodiadau.
Ond mae Khalifa Hifter, “byddin genedlaethol” Libya, yn dweud eu bod nhw’n targedu “targedau dilys” yn unig.
Mae Libya yn cyhuddo Twrci o helpu eu gwrthwynebwyr sy’n gysylltiedig â’r Cenhedloedd Unedig.
Ymosododd Khalifa Hifter ar lywodraeth Libya yn Tripoli ym mis Ebrill.
Mae pryderon y gallai’r brwydro droi’n ffyrnig.