Mae hen ddrymiwr Guns n Roses yn yr ysbyty ar ôl trywanu ei hun yn ei stumog, yn ôl adroddiadau.

Cafodd Steven Adler ei gludo i’r ysbyty nos Iau gydag anafiadau i’w stumog, yn ôl gwefan TMZ.

Digwyddodd hynny ar ôl i’r heddlu dderbyn adroddiadau bod dyn wedi trywanu ei hun yn nhŷ’r seren roc yn Los Angeles.

Doedd neb arall ynghlwm â’r digwyddiad, a dyw anafiadau Steven Adler ddim yn peryglu ei fywyd. Mae’r cerddor wedi treulio cyfnodau o’i fywyd yn gaeth i gyffuriau.