Mae dynes o Alabama a gollodd ei phlentyn ar ôl cael ei saethu yn ei stumog yn wynebu carchar.

Roedd Marshae Jones, 28, wedi bod yn feichiog ers pum mis pan gafodd ei saethu gan Ebony Jemison, 23, ym mis Rhagfyr.

Roedd y ddwy ddynes wedi bod yn cwffio a ffraeo tros bwy oedd tad y babi.

Yn wreiddiol mi gafodd Ebony Jemison ei chyhuddo o ddynladdiad, ond gwrthododd rheithgor â’i chael yn euog wedi i dystiolaeth brofi mai Marshae Jones ddechreuodd y sgarmes.

Hyd yma, dyw swyddfa twrnai’r cylch ddim wedi ymrwymo i ddwyn achos yn erbyn Marshae Jones. “Rydym yn teimlo dros bawb sydd ynghlwm â hyn,” meddai’r swyddfa mewn datganiad.