Mae miloedd o bobol wedi bod yn gorymdeithio trwy Kyiv, prifddinas yr Wcráin, tros hawliau i bobol lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol.

Mae naw o bobol wedi cael eu harestio wrth wrthwynebu’r orymdaith.

Yn ôl amcangyfrifon, mae tua 2,500 o bobol yn cymryd rhan yn yr orymdaith, ac fe fu nifer o brotestwyr yn gwrthdaro â’r heddlu wrth i’r gorymdeithwyr ymgasglu.

Mae gwrthwynebwyr yn dweud bod gwrywgydiaeth yn groes i ddiwylliant y wlad.