Mae o leiaf 20 o bobol wedi marw wedi i fws gwympo mewn i geunant dwfn yng ngogledd India.

Roedd y bws wedi bod yn teithio ar hyd heol fynyddig ger Kullu, pentref yn nhalaith Himachal Pradesh.

Mae ymdrech yn mynd rhagddo er mwyn achub unrhyw un a wnaeth oroesi’r ddamwain. Does dim sicrwydd ynglŷn â pham y gwyrodd y cerbyd oddi ar yr heol.

Mae tua 150,000 o bobol yn marw pob blwyddyn ar heolydd India, ac mae hynny’n rhannol oherwydd cyflwr gwael ei ffyrdd.

Ym mis Medi’r llynedd bu farw 55 o bobol pan blymiodd bws llawn pererinion oddi ar heol yn ne India.