Mae lluniau lloeren yn dangos bod rhewlifoedd ar fynyddoedd yr Himalayas yn meirioli ddwywaith mor gyflym ag oedden nhw mewn blynyddoedd a fu.

Mae’r gadwyn o fynyddoedd yn Asia, sy’n cynnwys Everest, wedi bod yn colli rhew ar raddfa o tua 1% ers 2000, yn ôl astudiaeth gan Science Advances.

Yn flynyddol mae hi wedi bod yn colli tua 7.5bn tunnel o rew ers 2000, i gymharu â 3.9bn tunnel rhwng 1975 a 2000, yn ôl yr ymchwil.

Dim ond 72% o’r rhew oedd yno yn 1975 sydd yn yr Himalayas nawr. Cyfeirir at yr ardal fel y ‘Trydydd Pegwn’ oherwydd bod cymaint o rew yno.

“Mae faint o rew sy’n cael ei golli yn peri pryder ond beth sy’n peri mwy o bryder yw cyflymder y broses,” meddai Josh Mauer, ymchwilydd rhewlifoedd ym Mhrifysgol Columbia, a prif awdur yr ymchwil.

Mae’r toddi yn cael effaith estynedig ar gyflenwadau dŵr yn y rhanbarth gan achosi iddo gynyddu a lleihau gan beri pryder i’r cannoedd o filiynau o bobol sy’n dibynnu arno am ynni dŵr, amaethyddiaeth a dŵr yfed.