Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn ymgynnull ym Mrwsel heddiw (Dydd Iau, Mehefin 20) er mwyn dewis pwy fydd eu prif arweinwyr nesaf.
Yn y cyfarfod o Gyngor Ewrop fe fydd aelodau yn gobeithio dewis pwy fydd yn cymryd lle pobl fel Donald Tusk a Jean-Claude Juncker.
Fe fydden nhw’n dewis llywydd newydd i’r Cyngor Ewropeaidd, llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, llywydd Banc Canolog Ewrop a Phrif Gynrychiolydd yr Undeb Ewropeaidd dros Faterion Tramor a Pholisi Diogelwch.
Nid yw’n glir a fydd “proses Spitzenkandidaten” – lle mae grwpiau gwleidyddol yn Senedd Ewrop yn cyflwyno eu dewisiadau – yn cael eu defnyddio eto, ar ôl ei gyflwyno yn etholiadau 2014.
Fe fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau ar eu swyddi ar Ragfyr 1.
Taith olaf i Frwsel
Hon fydd taith olaf y Prif Weinidog Theresa May i Frwsel ac er y bydd hi’n rhan o’r trafodaethau, nid oes disgwyl iddi gymryd rhan fawr yn y penderfyniadau.
“Cyhyd ag ein bod ni’n dal yn aelod fe fyddwn ni’n parhau i gymryd rhan yn y trafodaethau,” meddai llefarydd i Rif 10 Downing Street.
“Ond rwy’n credu ar yr un pryd rydyn ni’n parchu dull yr Arlywydd Tusk o greu pecyn o ymgeiswyr ar draws yr holl swyddi ac rydym yn cydnabod mai mater i’r 27 aelod yw hwn.”