Mae 71 miliwn o bobol wedi cael eu dadleoli ar draws y byd o ganlyniad i ryfela, erledigaeth a thrais o fathau eraaill, yn ôl y Cenhedloedd Unedig.

Mae hyn yn gynnydd o fwy na dwy filiwn er y llynedd.

Mae adroddiad blynyddol Tueddiadau Byd-eang wedi cyfri faint o ffoaduriaid, faint sydd yn ceisio cael lloches a faint o bobol sydd wedi cael ei dadleoli yn fewnol ar ddiwedd 2018.

Mewn rhai achosion mae pobol wedi byw am ddegawdau oddi cartref.

Mae disgwyl i’r ffigurau gynnau trafodaethau pellach ar gyfraith ryngwladol, hawliau dynol a gwleidyddiaeth ddomestig – yn enwedig y safiad mewn rhai gwledydd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, yn erbyn mewnfudwyr a ffoaduriaid.

Wrth lansio’r adroddiad roedd gan Filippo Grandi neges i arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ac arweinwyr eraill y byd gan alw ei agwedd tuag at ffoaduriaid yn “niweidiol”.

Mae’r adroddiad yn dangos fod 70.8 miliwn o bobol wedi’u dadleoli ddiwedd y llynedd, i fyny o tua 68.5 miliwn yn 2017 – a bod cynnydd o bron i 65% ar ddegawd yn ôl.