Mae un o hofrenyddion byddin Pacistan wedi achub chwech o ddringwyr – pedwar ohonyn nhw’n Eidalwyr – a aeth i drafferthion ar uchder o tua 5,300m yng ngogledd y wlad.

Roedd cwymp eira wedi taro’r tîm y diwrnod canlynol, ac fe gafodd un aelod o Bacistan ei ladd.

Roedd y criw yn dod i lawr o un o gopaon Dyffryn Ishkoman yn ardal Ghizar, ac fe gafodd chwech o’r dringwyr eu cludo i ysbyty yn nhref Gilgit er mwyn cael eu trin.

Fe ddaeth cadarnhad gan lefarydd ar ran byddin Pacistan fod hofrennydd wedi’i hanfon allan i gynorthwyo yn yn ymgyrch i achub y dynion fore heddiw (dydd Mawrth. Mehefin 18).

Roedd arweinydd y grŵp, Tarcisio Bello, yn dod o’r Eidal, ynghyd â Luca Morellato, David Bergamin a Tino Toldo.