Mae salwch enceffalitis wedi lladd dros 100 o blant yn rhanbarth Dwyreiniol India, Bihar.

Yn ôl yr awdurdodau, mae 106 wedi marw ac mae 437 o blant rhwng 4 a 10 oed yn cael eu trin mewn ysbytai yn ardal Muzaffarpur, 80km i’r gogledd o Patna, prifddinas y dalaith.

Mae pentrefwyr wedi ymgynnull y tu allan i Ysbyty Meddygol Coleg Sri Krishna yn Muzaffarpur i brotestio ei bod wedi cymryd cant o farwolaethau cyn i weinidog Bihar ymweld â’r ganolfan.

Ar ben hynny mae sefydliadau asgell-chwith hefyd wedi dod at ei gilydd i brotestio yn Delhi Newydd.

Mae miloedd o Indiaid yn dioddef o enceffalitis, malaria, tyffoid a heintiau eraill sydd yn mynd o gwmpas oherwydd mosgitos bob blwyddyn yn ystod poethni’r haf.

Mae arbenigwyr meddygol yn dweud nad yw llywodraethau canolog a gwladwriaeth India wedi’u paratoi ar gyfer beth sydd yn gylch blynyddol o glefydau a marwolaethau.