Dydi Iran ddim yn edrych i fynd i ryfel gyda ddim un wlad, mae arlywydd y wlad yn dweud wrth fynnu na fydd ei wlad yn rhoi mewn i bwysau gan yr Unol Daleithiau.

Daw’r sylwadau gan yr arlywydd Hassan Rouhani ar ôl i Iran gyhoeddi ei fod yn torri rheolau cytundeb niwclear wrth godi cyflenwad wraniwm.

Ar yr un pryd, mae Donald Trump wedi penderfynu danfon mil o filwyr ychwanegol i’r Dwyrain Canol.

“Dydyn ni ddim eisiau rhyfel ag unrhyw wlad,” meddai Hassan Rouhani.

“Mae cenedl gyfan Iran yn unfrydol wrth wynebu pwysau’r Unol Daleithiau. Bydd diwedd y frwydr hon yn arwain at fuddugoliaeth gan genedl Iran.”

Ychwanegodd fod Iran, er i’r Unol Daleithiau dynnu eu hunain allan o gytundeb niwclear Tehran 2015 y llynedd, yn parhau i fod “yn ffyddlon i’w ymrwymiadau”.

Ond ddoe (dydd Llun, Mehefin 17) cyhoeddodd asiantaeth niwclear Iran eu bod am gyfoethogi eu lefelau wraniwm o hyd at 20%, a fyddai’n mynd yn groes i’r cytundeb.