Mae dyn busnes o Christrchurch a rannodd fideo oedd yn dangos saethwr yn lladd addolwyr mewn mosg yn y ddinas yn Seland Newydd wedi cael ei anfon i’r carchar am 21 mis.
Roedd Philip Arps wedi pledio’n euog i ddau achos o rannu’r fideo a gafodd ei ffrydio’n fyw ar Facebook gan y saethwr ar Fawrth 15, wrth iddo ddechrau lladd 51 i bobol mewn dau fosg.
Dywedodd y barnwr fod Philip Arps wedi disgrifio’r fideo fel un “anhygoel” ac nad oedd o wedi dangos unrhyw empathi tuag at y dioddefwyr.
Daeth i’r amlwg yn y gwrandawiad fod gan Philip Arps safbwyntiau afresymol o gryf am y gymuned Fwslimaidd.
Roedd hefyd wedi ei gymharu ei hun â Rudolf Hess – yr arweinydd Natsiaidd o dan Adolf Hitler.
Roedd wedi rhannu’r fideo â 30 o bobol.