Mae Sara Netanyahu, gwraig prif weinidog Israel Benjamin Netanyahu, wedi cael dirwy o £11,931 am gamddefnyddio arian y wlad.

Cafodd ei dedfrydu gan ynadon Jerwsalem ar ôl pledio’n euog ar ôl blwyddyn o geisio profi ei bod hi’n ddieuog.

Roedd y llys yn honni ei bod hi wedi camddefnyddio £79,543 i brynu prydau bwyd moethus rhwng 2010 a 2013 ar ôl cyflogi cogydd llawn amser.

Cafodd ei chyhuddo o dwyll a thorri ymddiriedaeth y llynedd, ond plediodd hi’n euog i gyhuddiad llai o gamarwain swyddogion yn fwriadol.

Bydd rhaid iddi dalu dirwy o £2,227 a rhoi £9,942 yn ôl i’r wladwriaeth, yn ogystal â £39,771 o or-wariant.

Mae gan y cwpl enw drwg am fyw bywyd moethus, yn groes i’r rhan fwyaf o boblogaeth y wlad, ac mae hi wedi cael ei chyhuddo yn gorffennol o gamdrin ei staff.

Mae Benjamin Netanyahu yn wynebu achos o lygredd, twyll a thorri ymddiriedaeth, ac fe fydd yna wrandawiad ym mis Hydref, er ei fod e wedi galw am ohirio’r achos yn y Goruchaf Lys.