Mae’r uchel lys yn Ecwador wedi cyfreithloni priodasau un rhyw yn dilyn brwydr gyfreithiol hir gan ymgyrchwyr yn y wlad fechan yn Ne America.

Yn dilyn y dyfarniad, mae Ecwador bellach yn ymuno â rhai gwledydd eraill yn y cyfandir, gan gynnwys yr Ariannin, Brasil a Costa Rica, sydd eisoes wedi cyfreithloni priodasau un rhyw trwy gyfrwng y system gyfiawnder.

Mae undeb rhwng dau berson hoyw wedi bod yn gyfreithlon yn Ecwador ers degawd, er bod partneriaid sifil â llai o hawliau a chyplau priod pan maen dod at gyfreithiau etifeddu.

Yn ystod y gwrandawiad, mae barnwyr wedi gorchymyn deddfwrfa’r wlad i sicrhau bod cyfraith yn cael ei chymeradwyo sy’n sicrhau hawliau cyfartal i hoywon.

Dywed un ymgyrchydd fod y dyfarniad diweddaraf yn “newyddion da i’r gymuned hoyw ac i Ecwador gyfan.”