Mae’r ddeddfwrfa yn Hong Kong wedi gorfod gohirio cyfarfodydd unwaith yn rhagor heddiw (dydd Iau, Mehefin 13) wrth i brotestiadau yn y rhanbarth ddwysáu.

Mae protestwyr wedi bod yn tyrru i’r strydoedd ers rhai dyddiau bellach yn sgil eu hanfodlonrwydd â bwriad y llywodraeth i newid y gyfraith fel bod modd estraddodi pobol i Tsieina.

Mae nifer yn gweld y cam fel bygythiad i annibyniaeth Hong Kong, a gafodd ei drosglwyddo i ofal Tsieina yn 1997.

Bu protestio mawr ar strydoedd Hong Kong ar ddydd Mercher (Mehefin 12) ar y diwrnod yr oedd disgwyl i’r Cyngor Deddfwriaethol drafod y mesur estraddodi newydd.

Bu’n rhaid gohirio’r cyfarfod yn sgil y cynnwrf y tu allan, lle cafodd 70 o bobol eu hanafu.

Mae’r protestio yn parhau heddiw wrth i bobol atal mynediad at drenau a gyrru’n araf ar y prif ffyrdd.

Mae arweinydd Hong Kong, Carrie Lam, wedi dweud bod y protestio yn “annerbyniol” mewn “cymdeithas waraidd sy’n parchu’r gyfraith”.